2 Corinthians 10:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can vwrw i lawr ddychymygion, a’ phob vchelbeth a dderchefir yn erbyn gwybodaeth Duw, a’ chan gaethiwo pop meddwl i vvyðdawt Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
trwy Dduw, er bwrw i lawr gestyll,) gan fwrw i lawr ddychymmygion a phob uchelder y sy’n ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth am Dduw, ac yn caethiwo pob meddwl i ufudd-dod i Grist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
trwy ddymchwel ymresymiadau a phob gwrthglawdd a ddyrchefir yn erbyn gwybodaeth o Dduw a dwyn pob bwriad yn gaeth fel y byddo’n ufudd i Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a'r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan fwrw i lawr ymresymiadau a phob uchelder sydd yn ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth Duw, a chaethiwo pob meddwl i ufudd‐dod Crist;