2 Corinthians 10:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A edrychw‐chwi ar betheu erwydd golwc? A’s ymddiriet neb ynt ho yhun y vot ef yn perthyn i Christ, ystyried hyn drachefn am dano ehū, cā ys val y mae e yn perthyn i Christ, ac velly ydd ym ni ne yn perthyn i Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ar y pethau yn eich gwydd yr edrychwch. Os yw neb yn ymddiried ynddo ei hun, ei fod yn eiddo Crist, meddylied hyn etto ynddo ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly yr ydym ninnau hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar yr hyn sydd yn y golwg yr edrychwch. Os bu i neb ei ddarbwyllo’i hun ei fod yn eiddo i Grist, ystyried hyn drachefn rhyngddo ac ef ei hun, megis y mae ef yn eiddo i Grist felly ninnau hefyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wynebwch y ffeithiau amlwg. Pwy bynnag sy'n credu yn ei galon ei fod yn perthyn i Grist, fe ddylai ystyried hyn hefyd yn ei galon, ein bod ninnau yn perthyn i Grist gymaint ag yntau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr ydych yn edrych ar y pethau sydd o flaen y wyneb. Os ymddiried neb ynddo ei hun ei fod yng Nghrist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly ninnau hefyd.