2 Corinthians 10:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit pe ’s ffrostiwn beth mwy am ein awdurtot, yr hwn a roes yr Arglwydd y ni er adail ad, ac nyd er dinistr ad y’wch, ny chywilyddiaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ped ymffrostiwn rywfaint helaethach am ein hawdurdod, (yr hon a roddodd yr Arglwydd er adeiladu, ac nid er eich bwrw i lawr,)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os ymffrostiaf braidd yn ormod gyda golwg ar yr awdurdod a roddes yr Arglwydd inni er adeiladaeth ac nid er dinistr i chwi, ni’m cywilyddir —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni'm cywilyddid:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd yn oed os wyf yn ymffrostio rywfaint yn ormod am ein hawdurdod awdurdod a roddodd yr Arglwydd i ni er mwyn eich adeiladu, nid eich dymchwel ni chaf fy nghywilyddio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pe ymffrostiwn ryw faint yn helaethach yng nghylch ein hawdurdod — yr hon a roddodd yr Arglwydd er eich adeiladu i fyny, ac nid er eich bwrw i lawr — ni'm cywilyddir,