2 Corinthians 11:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y mae gwirionedd Christ ynof, na ’oarchëir y gorvoledd hyn yn v’erbyn yn‐ gwledydd Achaia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y mae gwirionedd Crist ynof, na chaiff yr ymffrost hwn ei attal, o’m rhan i, ym mharthau Achaia.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof ni chaeir yr ymffrost hwn rhagof ym mharthau Achaia.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn yng ngwledydd Achaia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn wired bod gwirionedd Crist ynof, ni roddir taw ar fy ymffrost hwn yn ardaloedd Achaia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Fel y mae gwirionedd Crist ynof, ni ddystewir fy ymffrost hwn ym mharthau Achaia.