2 Corinthians 11:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr yr hyn r’wyf yn ei wneuthur, hyny a wnaf: val y torwyf ymaith achos ywrth yr ei a ðeisyfent gael achos, val y ceffit hwy yn gyffelip i ni yn yr hyn y maent, yn ymhoffy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr hyn yr wyf yn ei wneud, a wnaf hefyd, fel y torwyf ymaith achlysur y rhai sy’n ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y caffer hwynt fel nyni hefyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf eto er mwyn torri ymaith gyfle’r rhai sy’n chwennych cyfle yn y gobaith y ceir eu bod, yn y peth yr ymffrostiant o’i blegid, ar yr un tir â ninnau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny'n tynnu'r carped o dan draed y rhai sy'n brolio ac yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith â ni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliaf i wneud yr hyn yr wyf yn ei wneud yn awr, i ddwyn eu cyfle oddi ar y rhai sy'n ceisio cyfle, yn y swydd y maent yn ymffrostio ynddi, i gael eu cyfrif yn gyfartal ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur a wnaf, fel y torrwyf ymaith achlysur oddiwrth y rhai sydd yn ewyllysio cael achlysur, fel yn yr hyn yr ymffrostiant, y ceir hwynt fel ninnau hefyd.