2 Corinthians 11:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys chwi ddy oddefwch yn llawen vn ynvyt, a chwychwi yn ddoethion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ag hyfrydwch yr ydych yn cyd-ddwyn â’r ynfydion, gan fod eich hunain yn ddoethion!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys er eich bod yn ddoethion yr ydych yn dygymod yn eithaf bodlon ag ynfydion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi'r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi'n barod iawn i oddef ffyliaid!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, a chwithau mor ddoeth!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr ydych yn goddef y ffyliaid yn llawen, gan eich bod eich hunain yn ddoethion.