2 Corinthians 11:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys eiddigus wyf am danoch, ac eiddigeð Duwiol: can ys darperais chwi i vn gwr a y’ch gosot vegis morwyn bur i Christ:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr cyd-ddygwch â mi hefyd; canys eiddigus wyf drosoch ag eiddigedd duwiol, canys dyweddïais chwi i un gŵr, i’ ch cyflwyno megis morwyn bur i Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd oddi wrth Dduw gan fy mod wedi eich dyweddïo i un gŵr fel y gallwn eich cyflwyno yn forwyn bur i Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys eiddigus wyf trosoch ag eiddigedd duwiol: canys mi a'ch dyweddïais chwi i un gŵr, i'ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os dw i'n genfigennus, Duw sy'n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi'ch addo chi yn briod i un dyn — ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi'n wyryf bur i'r Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun, gan i mi eich dyweddo i un gu373?r, eich cyflwyno yn wyryf bur i Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun; canys mi a'ch dyweddiais chwi i un gwr, i'ch cyflwyno fel morwyn bur i Grist.