2 Corinthians 11:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys goddefwch pe caethiwei vn chwi, pe bei vn ich ysu, pe bei vn yn dwyn y arnoch, pe bei vn yn ymðerchafu, pe trawei vn chwi ar eich wynep.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys cyd-ddwyn ag ef yr ydych, os rhyw un a’ch caethiwa chwi, os rhyw un a’ch llwyr-fwytta, os rhyw un a’ch cymmer, os rhyw un a ymdderchafa, os ar eich gwyneb y bydd i ryw un eich tarawo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid os darostwng rhywun chwi i gaethiwed, os llarpia rhywun chwi, os cipia rhywun chwi, os ymfawrha rhywun, neu os tery rhywun chwi ar eich wyneb, yr ydych yn goddef hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i'ch caethiwo, os bydd un i'ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, dych chi'n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw'n eich caethiwo chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi'n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw'n eich trin chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd rhywun yn eich caethiwo, neu yn eich ysbeilio, neu yn cymryd mantais arnoch, neu yn ymddyrchafu, neu yn eich taro ar eich wyneb, yr ydych yn goddef y cwbl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys goddefwch ef, os rhyw un a'ch caethiwo, os rhyw un a'ch llwyr‐fwytta, os rhyw un a'ch magla, os rhyw un a ymddyrchafa, os rhyw un a'ch tery ar y wyneb.