2 Corinthians 11:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am warth ad yð wyf yn dywedyt: megis pe bysem yn weinion: eithr ym‐pa beth bynac y bo neb hyderus (dywedaf yn ynfyt) hyderus yw vynef hefyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ol ammharch yr wyf yn dywedyd, fel pe baem ni yn weiniaid; ac ym mha beth bynnag y mae neb yn eofn (mewn ynfydrwydd yr wyf yn dywedyd), eofn ydwyf finnau hefyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Er anghlod yr wyf yn dywedyd mai gwan fuom ni. Ac eto ym mha beth bynnag y mae neb yn ymhonni — yn ffôl yr wyf yn siarad — yr wyf innau’n ymhonni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gen i gywilydd ohono i'n hun, fy mod i'n rhy wan i'ch trin chi felly! Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio'r ffŵl ydw i!)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n cydnabod, er cywilydd, i ni fod yn wan yn hyn o beth. Ond os oes rhywbeth y beiddia rhywun ymffrostio amdano, fe feiddiaf finnau hefyd mewn ffolineb yr wyf yn siarad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er ein gwaradwydd yr wyf yn llefaru, megys pe buasem yn weiniaid. Etto ym mha beth bynnag y mae neb yn hŷf (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd), yr wyf finnau hefyd yn hŷf.