2 Corinthians 11:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gwenidogion Christ ynt (dywedaf val ynwyt) mwy yw vi: mewn travaelion ym amlach: mewn ffonodiae dros vesur: yn carchare yn amlach: yn bron angeu e yn vynych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gweinidogion Crist ydynt! (dan ynfydu yr wyf yn dywedyd,) mwy wyf fi: mewn llafur, mwy dros ben; mewn carcharau, mwy dros ben; mewn gwialennodiau, allan o fesur; mewn marwolaethau yn fynych;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai gweision i Grist ydynt? Llefaraf yn ynfyd, myfi’n fwy felly; mewn caledwaith yn helaethach, mewn carcharau yn amlach, dan wialenodiau y tu hwnt i fesur, mewn perygl einioes yn aml.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gweision i'r Meseia? Dw i'n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio'n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw'n aml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ai gweision Crist ydynt? Yr wyf yn siarad yn wallgof, myfi yn fwy; yn fwy o lawer mewn llafur, yn amlach o lawer yng ngharchar, dan y fflangell yn fwy mynych, mewn perygl einioes dro ar l tro.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai gweinidogion Crist ydynt? (yr wyf yn llefaru fel un o'i bwyll,) mwy wyf fi: mewn llafur yn helaethach; mewn carcharau yn amlach; mewn gwialennodiau tu hwnt i fesur; mewn marwolaethau yn fynych;