2 Corinthians 11:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ydd wyf yn ofni rac megis y twyllawdd y serph Eua trwy hei challter, velly bot eich meðyliae chwi theu yn l’ygredic a’ diryvvio ywrth y semlrwydd ys ydd yn‐Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond ofni yr wyf, rhag mewn modd yn y byd, fel y bu i’r sarph dwyllo Efa, yn ei chyfrwysdra, y llygrer eich meddyliau oddiwrth y symlrwydd a’r purdeb sydd tua Christ.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae ofn arnaf rhag o bosibl, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y llygrir eich meddyliau a bod iddynt wyro oddi wrth yr unplygrwydd a’r purdeb sy’n gweddu tuag at Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yng Nghrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a'ch denu i ffwrdd o'ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fel y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y mae arnaf ofn y llygrir eich meddyliau chwi yn yr un modd, a'ch troi oddi wrth ddidwylledd a phurdeb eich ymlyniad wrth Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond ofni yr wyf rhag mewn un modd, fel y twyllodd y sarph Efa yn ei chyfrwystra, y cä eich meddyliau chwi eu llygru oddiwrth y symlrwydd a'r purdeb sydd tuag at Grist.