2 Corinthians 11:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y Duw, ’sef Tat ein Arglwyð Iesu Christ, yr hwn ’sy vendiged ic yn oes oesoedd, a wyr nad wyf yn dywedyt cel‐wyd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Duw a Thad ein Harglwydd Iesu a ŵyr (yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd) nad wyf yn celwyddu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sy’n fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu — yr un sydd i'w foli am byth — yn gwybod fy mod i'n dweud y gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sydd fendigedig am byth, yn gwybod nad wyf yn dweud celwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Duw a Thâd yr Arglwydd Iesu, yr Hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.