2 Corinthians 11:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a’s hwn a ddaw, a precetha amgen Iesu na’r vn a precethesam ni: neu a’ d erbyniwch amgen yspryt nac a dd erbyniesoch: neu amgen Euāgel, nac a dd erbyniesoch, tec y gallesech y dd yoðe ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys yn wir, os yw yr hwn sy’n dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom, neu Yspryd arall a dderbyniwch yr hwn ni dderbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, da y cyd-ddygwch ag ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os daw rhywun ar ei dro a phregethu ohono Iesu arall na phregethasom ni, neu os derbyniwch Ysbryd arall na dderbyniasoch neu efengyl arall na chofleidiwyd gennych, yr ydych yn goddef yn ddigon rhwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yn wir os ydyw'r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i'r un roedden ni'n ei bregethu. Dych chi'n derbyn ysbryd sy'n wahanol, neu ‛newyddion da‛ gwahanol, a dych chi'n goddef y cwbl yn ddigon hapus!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os daw rhywun a phregethu Iesu arall, na phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd gwahanol i'r Ysbryd a dderbyniasoch, neu efengyl wahanol i'r Efengyl a dderbyniasoch, yr ydych yn goddef y cwbl yn llawen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn wir os yw yr hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn yspryd gwahanol, yr hwn nis derbyniasoch, neu efengyl wahanol, yr hon ni dderbyniasoch, yr ydych yn dal yn rhagorol!