2 Corinthians 11:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ chyd bvvyf drwscl o ymadrodd, er hyny nyd vvyf velly yn‐gwybodaeth, eithr yn eich plith chwi in eglurhawyt yn ollawl, ym‐pop dim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os hefyd anghyfarwydd wyf yn fy ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth, eithr ymhob peth amlygasom hyn ymhlith pawb, tuag attoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A hyd yn oed os anhyddysg ydwyf o ran ymadrodd eto nid felly yr wyf o ran gwybodaeth, fel y gwnaed yn eglur i chwi, ym mhob modd a cherbron pawb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob dim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Falle nad ydw i'n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i'n gwybod beth ydy'r gwir. Mae'r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd yn oed os wyf yn anfedrus fel siaradwr, nid wyf felly mewn gwybodaeth; ym mhob ffordd ac ar bob cyfle yr ydym wedi gwneud hyn yn eglur i chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os ydwyf hefyd yn annghelfydd mewn ymadrodd, nid wyf felly mewn gwybodaeth; na, ym mhob peth gwnaethom hyn yn amlwg ym mhlith pawb tuag attoch.