2 Corinthians 11:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A wneuthum i ar vai, can i mi ymestwng vy hun, val y derchefit chwi, a’ chan i mi precethu y chwi Euangel Christ yn r h at?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai pechod a wneuthum wrth fy ngostwng fy hun fel y byddai i chwi eich derchafu, gan mai yn rhad yr efengylais i chwi Efengyl Dduw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gyflawnais i, tybed, drosedd wrth fy narostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, sef oblegid fy mod wedi pregethu efengyl Duw yn rhad i chwi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddwn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i'r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wneuthum drosedd wrth fy narostwng fy hun er mwyn ichwi gael eich dyrchafu, trwy bregethu ichwi Efengyl Duw yn ddi-dl?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu a gyflawnais i bechod wrth fy ngostwng fy hun fel y dyrchefid chwi, oblegyd pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rhad?
Recommended Reading