2 Corinthians 11:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan oeddwn yn presennol y gyd a chwi, ac arnaf eisieu, ny vu vy‐diogi yn ammorth i neb un: can ys hyn a vyddei arnaf ei eisieu, a gwplay ’r brodur a ðelynt o Macedonia, ac ym‐pop dim ydd ymgedwais ac ydd ymgadwaf yn ðibwys arnoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phan yn bresennol gyda chwi, ac mewn eisiau, ni fu’m faich i neb, canys fy eisiau a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Macedonia; ac ymhob peth y cedwais fy hun heb fod yn drwm arnoch, ac y cadwaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisiau ni bûm yn faich ar neb. Canys cyflenwodd y brodyr a ddaeth o Facedonia fy angen. Gan hynny fe ymgedwais ym mhob dim rhag bod yn feichus i chwi a gwnaf hynny eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb: canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed pan roeddwn i'n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen. Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i'n mynd i ddal i wneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan oeddwn gyda chwi ac mewn angen, ni bm yn faich ar neb, oherwydd diwallodd y cyfeillion a ddaeth o Facedonia fy angen. Ym mhob peth fe'm cedwais, ac fe'm cadwaf, fy hun rhag bod yn dreth arnoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a phan oeddwn yn bresennol gyda chwi ac mewn eisieu, ni bum yn faich i neb, canys y brodyr, pan ddaethant o Macedonia, a gyflawnasant fesur fy eisieu, ac ym mhob dim y'm cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac a ymgadwaf.