2 Corinthians 12:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny ydd ymddigrif h a vi yn‐gwendid æ, mewn am p archion, mewn ang h enion, yn ymlidiae, yn‐cyfyngder æ er mwyn Christ: can ys pan wyf wan, yno ddwyf gadarn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, boddlonir fi mewn gwendidau, mewn saradau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna galluog wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny yr wyf yn ymfodloni mewn gwendidau, mewn gwaradwyddiadau, mewn anffodion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau er mwyn Crist. Canys pan fwyf wan, y pryd hwnnw yr wyf gadarn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydw, dw i'n falch fy mod i'n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau'n anobeithio, er mwyn y Meseia. Achos pan dw i'n wan, mae gen i nerth go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny yr wyf yn cymmeryd hyfrydwch mewn gwendidau, mewn sarhadau, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist; canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.