2 Corinthians 12:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ynfyd oeðwn ymffrostio: chwi chwi am cym p ellawð: can ys dylyeswn i gahel vy‐canmol genychwi: can ys yn‐ d im nyd oeddwn is elach na’r gwir bennaf Apostolion, cyd nad wyf ddim.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Aethum yn ynfyd; chwi a’m cymhellasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol genych chwi; canys mewn dim ni fu’m ar ol i’r apostolion tra-rhagorol, er mai diddym ydwyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Euthum yn ynfyd. Chwychwi a’m gorfododd. Canys dylaswn gael fy nghymeradwyo gennych chwi. Oblegid ni fûm, mewn unrhyw fodd, yn llai na’r “uwch-apostolion” er nad wyf innau’n ddim.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a euthum yn ffôl wrth ymffrostio; chwychwi a'm gyrasoch: canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ôl i'r apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi actio'r ffŵl, ond eich bai chi ydy hynny. Chi ddylai fod yn fy nghanmol i, achos dw i ddim yn israddol o gwbl i'r ‛ffansi-apostolion‛ yna. Er, dw i'n gwybod mod i'n neb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Euthum yn ffl, ond chwi a'm gyrrodd i hyn. Oherwydd dylaswn i gael fy nghanmol gennych chwi. Nid wyf fi yn l mewn dim i'r archapostolion hyn, hyd yn oed os nad wyf fi'n ddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Aethum yn ffol; chwychwi a'm gorfodasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi; canys ni fum mewn dim ar ol yr Apostolion tra‐rhagorol! Er nad wyf fi ddim,