2 Corinthians 12:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wely, y drydedd waith vy vi yn parot y ddyvot atoch, ac eto ny byðaf-ðiog‐ormesol‐arnoch: can na cheisiaf yr pethe sydd yddoch, anyd chvvy chwi: can na ðylyei y plant cascly da ir tadeu, anyd y tadeu ir plant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, y drydedd waith yw hon i mi fod yn barod i ddyfod attoch, ac ni fyddaf faich arnoch, canys nid wyf yn ceisio yr eiddoch chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i’r rhieni, eithr y rhieni i’r plant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele’r trydydd tro yr wyf yn barod i ddyfod atoch ac ni fyddaf yn faich arnoch. Canys nid eich eiddo yr wyf yn ei geisio ond chwychwi. Canys nid dyletswydd y plant yw trysori ar gyfer y rhieni ond y rhieni ar gyfer y plant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai'r plant gasglu trysor i'r rhieni, ond y rhieni i'r plant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bellach dw i'n barod i ymweld â chi am y trydydd tro. A dw i ddim yn mynd i fod yn faich arnoch chi y tro yma chwaith. Chi sy'n bwysig i mi, nid eich arian chi! Rhieni sydd i gynnal eu plant; does dim disgwyl i'r plant gynilo er mwyn cynnal eu rhieni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma fi'n barod i ddod atoch y drydedd waith. Ac nid wyf am fod yn faich arnoch. Oherwydd chwi yr wyf yn eu ceisio, nid eich eiddo; nid y plant a ddylai ddarparu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, hon yw y drydedd waith yr wyf yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf yn faich; canys nid wyf yn ceisio eich eiddo chwi, eithr chwychwi; canys ni ddylai y plant drysori i'r rhieni, eithr y rhieni i'r plant;