2 Corinthians 12:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ my vi yn llawenaf olla draulia, ac a ymdrauliaf dros eich eneidieu: cyd po vwyaf ich caraf, lleiaf im cerir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond myfi, gyda’r hyfrydwch mwyaf y treuliaf ac y’m treulir tros eich eneidiau. Os mwy tros fesur yr wyf yn eich caru chwi, ai llai y’m cerir?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gyda’r parodrwydd mwyaf y treuliaf i ac yr ymdreuliaf dros eich eneidiau. Ai po fwyaf y caraf i chwi lleiaf oll y’m cerir i, tybed?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dw i'n fwy na pharod i wario'r cwbl sydd gen i arnoch chi — a rhoi fy hun yn llwyr i chi. Ydych chi'n mynd i ngharu i'n llai am fy mod i'n eich caru chi gymaint?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wariaf fi fy eiddo yn llawen, ac fe'm gwariaf fy hunan i'r eithaf, dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi'n eich caru chwi'n fwy, a wyf fi i gael fy ngharu'n llai?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a myfi, gyda'r llawenydd pennaf, a dreuliaf ac a ymdreuliaf allan dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi yn eich caru yn ddirfawr, ai llai y'm cerir i?