2 Corinthians 12:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr bid na phwyseis arnoch: er hyny can vy‐bot yn gall mi a’ch delhiais a dichell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond bydded, Na fu i mi bwyso arnoch, eithr gan fod yn gyfrwys, trwy ddichell y deliais chwi!
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bid felly, ni bûm i’n faich arnoch. Eithr gan fy mod yn greadur cyfrwys fe’ch deliais chwi hwyrach trwy ddichell.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr bid, ni phwysais i arnoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a'ch deliais chwi trwy ddichell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly wnes i ddim eich llethu chi'n ariannol. Ond wedyn mae rhai yn dweud fy mod i mor slei! Maen nhw'n dweud fy mod i wedi llwyddo i'ch twyllo chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond, a chaniatu na fm i'n dreth arnoch, eto honnir imi fod yn ddigon cyfrwys i'ch dal trwy ddichell.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond bydded felly: ni phwysais i arnoch; eithr gan fod o'r dechreu yn gyfrwys, mi a'ch deliais trwy ddichell.