2 Corinthians 12:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi ddesyfais ar Titus, a chyd ac ef yd anvonais vrawt: a hudodd Titus chwi am ddim och da? any rodiesam yn yr vnryw yspryt? any rodiesam yn yr vn ryw lwybrae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Deisyfiais ar Titus, ac ynghydag ef y danfonais y brawd: a elwodd Titus ryw beth arnoch? Onid yn yr un Yspryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ceisiais gan Ditws ddyfod atoch ac anfonais y brawd gydag ef. A wnaeth Titws yn fawr o’i gyfle i elwa arnoch? Onid yn yr un Ysbryd y rhodiasom? Onid yn yr un olion y troediasom?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n annog Titus i fynd i'ch gweld chi ac anfon ein brawd gydag e. Wnaeth Titus fanteisio arnoch chi? Na, mae ganddo fe yr un agwedd â mi, a dŷn ni'n ymddwyn yr un fath â'n gilydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deisyfais ar Titus fynd atoch, ac anfonais ein brawd gydag ef. A fanteisiodd Titus arnoch? Onid ymddwyn yn yr un ysbryd a wnaethom ni, ac onid dilyn yr un llwybrau?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Deisyfais ar Titus, ac mi a anfonais y brawd gydag ef. A gymmerodd Titus unrhyw fantais arnoch? Oni rodiasom wrth yr un Yspryd, yn yr un llwybrau?