2 Corinthians 12:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefn, a dyby g wch vvi may ymguso di ydd ym ni wrthych? ydd ym yn dywedyt rac bron Duw yn‐Christ. Eithyr gvvneuthur ydd ym bop peth, vy gcaredigion, er adailadaeth i chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Er ys meityn y meddyliwch mai amddiffyn ein hunain wrthych chwi yr ydym. Ger bron Duw yng Nghrist y llefarwn. A’r oll, anwylyd, er eich adeiladaeth chwi y mae;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ers talm bellach yr ydych yn tybied ein bod yn ein hamddiffyn ein hunain ger eich bron chwi. Gerbron Duw ac yng Nghrist y llefarwn. Ac y mae’r cwbl, anwylyd, er mwyn eich adeiladaeth chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi'n meddwl ein bod ni wedi bod yn amddiffyn ein hunain o'ch blaen chi? Na, fel Cristnogion dŷn ni wedi bod yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw, a hynny er mwyn eich cryfhau chi, ffrindiau annwyl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ydych yn tybio drwy'r amser mai ein hamddiffyn ein hunain i chwi yr ydym? Gerbron Duw yr ydym yn llefaru, yng Nghrist, a'r cwbl er adeiladaeth i chwi, fy nghyfeillion annwyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er ys meityn yr ydych yn tybied mai amddiffyn ein hunain ydym wrthych. Ger bron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru: a'r oll, anwyliaid, er mwyn eich adeiladaeth chwi.