2 Corinthians 12:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi adwaen ddyn yn‐Christ er ys rhagor i bedair blynedd ar ddec, (pa vn oedd ai yn y corph, ny wn, ai allan o’r corph, ny wn: Duw a wyr) yr hwn a gymerwyt‐y‐vyny dd yd y drydedd nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Adwaenwn ddyn yng Nghrist, pedair mlynedd ar ddeg yn ol, (pa un ai yn y corph, nis gwn; ai allan o’r corph nis gwn; Duw a ŵyr,) gipio o’r cyfryw un hyd y drydedd nef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Adwaen ddyn yng Nghrist a gipiwyd i fyny i’r drydedd nef, bedair blynedd ar ddeg yn ôl, — ai yn y corff ni wn, ai allan o’r corff ni wn, ond gŵyr Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un ai yn y corff, ni wn; ai allan o'r corff, ni wn i: Duw a ŵyr;) y cyfryw un a gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod am un o ddilynwyr y Meseia gafodd ei gipio i uchder y nefoedd bedair blynedd ar ddeg yn ôl. Wn i ddim a ddigwyddodd hynny'n gorfforol neu beidio — dim ond Duw sy'n gwybod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn am ddyn yng Nghrist a gipiwyd, bedair blynedd ar ddeg yn l, i fyny i'r drydedd nef ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn adwaen dyn yng Nghrist, pedair blynedd ar ddeg yn ol (ai yn y corph, nis gwn; ai allan o'r corph, nis gwn; Duw a ŵyr), gipio y cyfryw un hyd y drydedd nef.