2 Corinthians 12:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ofny ’rwyf rac pan ðelwyf, na’ch caffwy yn gyfryw rei ac a vynnwn: ac im ceffir inheu y chwi theu yn gyfryw vn ac ny vynnech, a’ rrac bot ymryson, cenivgenu, dig ofein cynnenneu, goganeu ym husting eu, ymchwyddo ac ancydvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ofni yr wyf nad, ysgatfydd, ar fy nyfodiad, y cyfryw rai ag a fynnwn y’ch ceir genyf, ac y’m ceir innau genych chwi yn gyfryw ag na fynnech; fod, ysgatfydd, gynhen, eiddigedd, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, annhrefnau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae ofn arnaf rhag i mi ddyfod a’ch cael heb fod yn gyfryw ag a ddymunaf, a’m cael innau gennych chwi yn gyfryw na ddymunech. Ofnaf y gall fod cynnen, cenfigen, pyliau o lidiowgrwydd, cwerylon, enllibiau, hustyngau, ymchwyddiadau, terfysgoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na'ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a'm cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan fydda i'n dod acw, mae gen i ofn y byddwch chi ddim yn ymddwyn fel y baswn i'n hoffi. Wedyn fydda i ddim yn ymateb fel y byddech chi'n hoffi! Mae gen i ofn y bydd yna ffraeo, cenfigennu, gwylltio ac uchelgais hunanol, pobl yn enllibio, hel straeon, yn llawn ohonyn nhw eu hunain ac yn creu anhrefn llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae arnaf ofn na chaf chwi, pan ddof, fel y dymunwn ichwi fod, ac na'm ceir innau chwaith fel y dymunech chwi imi fod. Yr wyf yn ofni y bydd cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, difenwi, clebran, ymchwyddo, terfysgu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn ofni, rhag mewn un modd, pan ddelwyf, i mi eich cael nid fel y dymunwn, a minnau i'm cael gennych chwithau yn gyfryw ag na ddymunech chwi: rhag mewn un modd fod cynnen, eiddigedd, llidiau, ymrysonnau, enllibiadau, ensyniadau, ymchwyddiadau, terfysgau: