2 Corinthians 12:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mae arna vi ofn rrac pan ddelwyf drachefn, vot i’m Duw vyngestwng yn eich plith, a’ dwyn galar dros lawer yr ei a bechasant eisius, ac ny chymer e sont ediueirwch am yr aflendit, a’r godinep, a’ nwyfiant, a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhag, pan ddelwyf, drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gwydd; a galaru o honof am lawer o’r rhai a bechasant eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid, a’r godineb, a’r anlladrwydd a wnaethant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ofnaf rhag i’m Duw, wedi i mi ddyfod drachefn, fy narostwng o’ch achos chwi, ac y bydd i mi alaru oblegid llawer o’r rhai a bechodd gynt ac sydd heb edifarhau am yr aflendid, y puteindra, a’r trythyllwch a wnaethant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gen i ofn y bydd Duw yn gwneud i mi deimlo cywilydd o'ch blaen chi eto pan fydda i'n dod acw. Bydda i wedi torri fy nghalon am fod llawer acw yn dal ati i bechu a heb droi cefn ar eu meddyliau mochaidd, eu hanfoesoldeb rhywiol a'u penrhyddid llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn ofni rhag i'm Duw, pan ddof drachefn, fy narostwng o'ch blaen, a rhag imi orfod galaru dros lawer a oedd wedi pechu gynt, a heb edifarhau am yr amhurdeb a'r anfoesoldeb rhywiol a'r anlladrwydd a wnaethant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
rhag, pan ddelwyf drachefn, fy narostwng gan fy Nuw yn eich gŵydd, a galaru o honof am lawer ydynt wedi pechu eisoes, ac nad edifarhasant am yr aflendid a'r godineb a'r anlladrwydd a wnaethant.