2 Corinthians 12:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pe ’s ymhoffwn, ny vyddwn ynvyt: can ys dywedaf y gwir ionedd, eithr eiriachaf, rac y neb dybiet am danaf uch law hyn a wyl vod ynof, neu a glyw genyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond am danaf fy hun nid ymffrostiaf oddieithr yn fy ngwendidau. Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf ynfyd, canys y gwir a ddywedaf; ond arbed yr wyf rhag i neb feddwl am danaf fi tu hwnt i’r hyn a wel fy mod i, neu a glyw oddiwrthyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os dymunaf ymffrostio ni byddaf ynfyd, oblegid y gwirionedd a ddywedaf. Eithr ymataliaf, rhag i rywun synied yn uwch amdanaf na’r hyn a wêl ynof ac a glyw gennyf oblegid godidowgrwydd y datguddiadau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gallwn i ddewis brolio, a fyddwn i ddim yn actio'r ffŵl taswn i yn gwneud hynny, achos byddwn i'n dweud y gwir. Ond dw i ddim am wneud hynny, rhag i rywun feddwl yn rhy uchel ohono i — mwy na beth ddylen nhw. Dw i eisiau i'w barn nhw amdana i fod yn seiliedig ar beth maen nhw wedi fy ngweld i'n ei wneud neu'n ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os dewisaf ymffrostio, ni byddaf ffl, oherwydd dweud y gwir y byddaf. Ond ymatal a wnaf, rhag i neb feddwl mwy ohonof na'r hyn y mae'n ei weld ynof neu'n ei glywed gennyf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni fyddaf yn ffol, canys gwirionedd a ddywedaf; eithr yr wyf yn ymattal, rhag i neb feddwl am danaf fi uwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed oddiwrthyf.