2 Corinthians 12:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ rrac tra ymdderchaf ael o hanof gan arbenigrwydd y datguddiegaethae, e roddwyt i mi bingyn yn y cnawt, cenad Satan im cernodio, rac tra ymdderfaf æl o hanof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrwy ragoroldeb y datguddiedigaethau —; o herwydd paham, fel na’m tra-dyrchafer, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i’m cernodio, fel na’m tra-dyrchafer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid hyn, fel na’m tra-dyrchefid rhodded i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i’m dyrnodio, fel na’m tra-dyrchafwn fy hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel na'm tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i'm cernodio, fel na'm tra-dyrchefid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i wedi gorfod dioddef poenau corfforol (rhag i mi droi'n greadur rhy falch am fod Duw wedi datguddio pethau rhyfeddol i mi). Mae Satan wedi cael anfon negesydd i'm ffistio i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o ganlyniad, fel na'm tra‐dyrchafer trwy odidowgrwydd y dadguddiadau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i'm cernodio.