2 Corinthians 12:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthyf, Digon yti vy rhat i: can ys vy‐nerth i a berffeithir trwy wendit. Llawē iawn gan hyny yr ymhoffaf vi yn hytrach yn vy‐gwendid æ, val y trico nerth Christ ynof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd Efe wrthyf, Digon i ti yw Fy ngras; canys Fy ngallu, mewn gwendid y’i perffeithir. Gyda’r hyfrydwch mwyaf, gan hyny, mwy yr ymffrostiaf yn fy ngwendidau, fel trosof y tabernaclo gallu Crist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr dywedodd wrthyf: Digon i ti fy ngras i. Canys mewn gwendid y perffeithir nerth. Yn dra llawen, gan hynny, yr ymffrostiaf yn hytrach yn y gwendidau fel y byddo nerth Crist yn gysgod drosof.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Crist ynof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond ei ateb oedd, “Mae fy haelioni i'n hen ddigon i ti. Mae fy nerth i'n gweithio orau mewn gwendid.” Felly dw i'n hapus iawn i frolio am beth sy'n dangos fy mod i'n wan, er mwyn i nerth y Meseia ddal i weithio trwof fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd wrthyf, "Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth." Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac y mae efe wedi dywedyd wrthyf, Digon i ti fy ngras i; canys nerth a berffeithir mewn gwendid. Gyda'r llawenydd pennaf gan hynny yr ymffrostiaf yn hytrach yn fy ngwendidau, fel y cysgodo gallu Crist drosof.