2 Corinthians 13:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
LLyma ’r drydedd waith i mi y ddyvot atoch. Yn‐geneu dau neu dri o testion y bydd safadwy pop gair.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y drydedd waith yw hon yr wyf yn dyfod attoch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwn yw’r trydydd tro yr wyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y sefydlir pob gair.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi. “Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r drydedd waith y dof atoch chwi. Y mae pob peth i sefyll ar air dau neu dri o dystion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hon yw y drydedd waith yr ydwyf yn dyfod attoch. Yng ngenau dau dyst neu dri y sefydlir pob gair.