2 Corinthians 13:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny ydd wyf yn eich absen yn scrivennu y petheu hynn, rrac ymy pan vvyf wydd‐yn gwydd, arver o vot yn dost, wrth y meðiant a roes yr Arglwyð y‐my er adail ad, ac nyd er dinistr ad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, y pethau hyn yn fy absennoldeb yr wyf yn eu hysgrifenu, fel, pan yn bresennol, nad arferwyf doster yn ol yr awdurdod y bu i’r Arglwydd ei rhoddi i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid hyn yr ysgrifennaf y pethau hyn yn f’absen fel na bo i mi, pan fyddwyf yn bresennol, arfer gerwinder yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeiladaeth ac nid er dinistr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol — dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, a minnau'n absennol, er mwyn i mi, pan fyddaf yn bresennol, beidio 'ch trafod yn llym wrth arfer yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd imi i adeiladu, nid i ddymchwel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn, a myfi yn absennol, yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf yn bresennol, nad ymddygaf yn llym yn ol yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd i mi er adeiladaeth, ac nid er tynnu i lawr.