2 Corinthians 13:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bellach vrodr, ewch yn‐iach: byddwch perfeicth: ymgofforddiwch: ymgydsynniwch: byddwch vyw yn dangneddefus, a’ Duw y cariat a’r tangneddyf a vydd gyd a chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ddiweddaf, frodyr, byddwch iach; perffeithier chwi; diddaner chwi; yr un peth syniwch; heddychol byddwch; a Duw’r cariad a heddwch fydd gyda chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bellach, frodyr, byddwch lawen, ymberffeithiwch, ymgysurwch, byddwch yn unfryd, byddwch yn heddychol, a bydd Duw’r cariad a’r heddwch gyda chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw'r cariad a'r heddwch a fydd gyda chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i'n eich annog chi i'w wneud. Cytunwch â'ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â'ch gilydd. A bydd y Duw sy'n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bellach, frodyr, byddwch wych: byddwch berffaith: dyddaner chwi: syniwch yr un peth: byddwch heddychol: a Duw y cariad a'r heddwch fyddo gyda chwi.