2 Corinthians 13:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Racddywedais ywch, a’ racddywedaf ywch: megis be bawn wyð‐yn‐gwyð yr ail‐waith, velly yr scrivenaf yn absen wrth yr ei ym blaē llaw a bechasāt, ac wrth bawp ereill, can a’s dawaf drachefn ny d arbedaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Yngenau dau dyst, neu dri, sefydlir pob gair.” Rhag-ddywedais, a rhag-ddywedyd yr wyf, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awr hon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhagfynegais pan oeddwn yn bresennol yr ail dro a rhagfynegaf yn awr yn f’absen i’r cyn-bechaduriaid ac i bawb o’r lleill nad arbedaf neb os deuaf drachefn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi rhoi un rhybudd i'r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i'n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i'n dangos dim trugaredd y tro nesa!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddwn gyda chwi yr ail waith, rhoddais rybudd i'r rhai oedd gynt wedi pechu, ac i bawb arall; yn awr, a minnau'n absennol, yr wyf yn dal i'w rhybuddio: os dof eto, nid arbedaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhag‐ddywedais ac yr wyf yn rhag‐ddywedyd, fel pan yn bresennol yr ail waith, ac yr awrhon yn absennol, wrth y rhai a bechasant eisoes, ac wrth y lleill oll, os deuaf drachefn, nad arbedaf: