2 Corinthians 13:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys cyd crogit ef o ran ei wendit, er hyny byw ydyw trwy nerth Duw. A’ diau yw ein bo ni nheu yn weinion ynt h o ef: eithr byw vyddwn y gyd ac ef, trwy nerth Duw tu ac at y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys croes-hoeliwyd Ef trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw; canys nyni hefyd ydym weiniaid Ynddo Ef, eithr byw fyddwn gydag Ef trwy allu Duw tuag attoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae’n wir y croeshoeliwyd ef o wendid ond y mae’n byw, er hynny, trwy nerth Duw. Ac yr ydym ninnau’n wan ynddo ef, eithr byddwn fyw gydag ef trwy nerth Duw yr hwn a amlygir tuag atoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dŷn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e — a'r bywyd hwnnw sydd trwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd er ei groeshoelio ef mewn gwendid, eto y mae'n byw trwy nerth Duw. Ac er ein bod ninnau yn wan ynddo ef, eto fe gawn fyw gydag ef trwy nerth Duw, yn ein perthynas chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys croeshoeliwyd ef yn wir trwy wendid, eithr byw y mae trwy allu Duw. Canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy allu Duw tuag attoch chwi.