2 Corinthians 13:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Profwch eichunain a ytych yn y ffydd ecsamnwch ychunain: any d adwaenwch eichunain, ’sef y ’r Iesu Christ vot ynoch, a ddyeithr ychwy vot yn ancymeradwy?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwi eich hunain profwch a ydych yn y ffydd: o honoch eich hunain gwnewch brawf. Onid adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi, oddieithr mai anghymmeradwy ydych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Neu oni wyddoch amdanoch eich hunain fod Iesu Grist ynoch? Hynny yw oddieithr eich bod yn anghymeradwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? — os na, dych chi wedi methu'r prawf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Profwch eich hunain i weld a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Onid ydych yn sylweddoli bod Iesu Grist ynoch chwi? a chaniatu nad ydych wedi methu'r prawf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Profwch eich hunain a ydych yn y ffydd: gwnewch brawf o honoch eich hunain: neu oni lawn adnabyddwch eich hunain fod Iesu Grist ynoch chwi? oddieithr yn wir eich bod yn annghymmeradwy.