2 Corinthians 13:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi archaf y Dduw na wneloch ðim drwc, nyd er cael e yn egluro ni yn gimradwy, anyd er y chwi wneuthur yr hyn ’sy syber vv, cyd bom ni megis yn rei ancymeradwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gweddïo ar Dduw yr ydym na wneloch ddim sy ddrwg; nid fel y bo i ni ymddangos yn gymmeradwy, eithr fel y bo i chwi wneuthur yr hyn sydd dda, er i ni fod fel yn anghymmeradwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr yr ydym yn gweddïo ar Dduw na bo i chwi wneuthur dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos yn gymeradwy, ond er mwyn i chwi wneuthur yr hyn sydd dda ac i ninnau fod megis yn anghymeradwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dŷn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydym yn gweddo ar Dduw na fydd i chwi wneud dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos fel rhai a lwyddodd yn y prawf, ond er mwyn i chwi wneud yr hyn sydd dda, er i ni ymddangos fel rhai a fethodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr ydym yn gweddio ar Dduw na wneloch ddim sydd ddrwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd iawn, er i ni fod fel yn annghymmeradwy.