2 Corinthians 2:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
EIthr mi tervynais hyn yno y hunan, na ddelwn atoch drachefn yn‐tristit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phenderfynais hyn ynof fy hun, mai mewn tristwch na ddeuwn trachefn attoch:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hyn felly a benderfynais, sef peidio â dod atoch drachefn mewn tristwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai'n achosi poen i bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Penderfynais beidio dod atoch unwaith eto mewn tristwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr mi a benderfynnais hyn i mi fy hun, na ddeuwn drachefn mewn tristwch attoch.