2 Corinthians 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn y maddeuoch ddim yddaw, y maddeuaf vi nheu hefyt: can ys yn wir a’s maddeuais i ddim, ir hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yn‐golwc Christ,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac i’r hwn yr ydych yn maddeu peth, minnau hefyd wyf; canys yr hyn a faddeuais i, os rhyw beth a faddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais ym mherson Crist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond i’r neb y maddeuwch chwi ddim iddo felly y gwnaf innau. Canys yr hyn a faddeuais i, os maddeuais rywbeth, er eich mwyn chwi y gwneuthum hynny yng ngŵydd Crist
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi — os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod fy mod i wedi gwneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl yr ydych chwi'n maddau rhywbeth iddo, yr wyf fi'n maddau iddo hefyd. A'r hyn yr wyf fi wedi ei faddau, os oedd gennyf rywbeth i'w faddau, fe'i maddeuais er eich mwyn chwi yng ngolwg Crist,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac i'r hwn yr ydych yn maddeu dim, yr wyf finnau hefyd: canys yr hyn hefyd yr wyf wedi ei faddeu, os maddeuais ddim, er eich mwyn chwi y maddeuais ef ym mherson Crist,