2 Corinthians 2:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ny chawn lonydd yn vy yspryt, can na vedrwn gael Titus vy‐brawt, anyd canu yn iach yddynt awnaethym, a’ myned ymaith i Macedonia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ni chefais orphwysdra i’m hyspryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr wedi canu yn iach iddynt, aethum allan i Macedonia.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ni chefais lonydd i’m hysbryd oblegid na chefais hyd i’m brawd Titws; felly ffarweliais â hwynt ac euthum i Facedonia.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu'n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i'n disgwyl. Felly dyma fi'n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ni chefais lonydd i'm hysbryd am na ddeuthum o hyd i'm brawd Titus. Felly cenais yn iach iddynt, a chychwyn am Facedonia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ni chefais esmwythâd i'm hyspryd, gan na chefais Titus fy mrawd; eithr wedi canu yn iach iddynt, mi a aethum allan i Macedonia.