2 Corinthians 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Anyd y Dduw y ddyol vv ch, yr hwn yn wastat a wna yni ’orvot yn‐Christ, ac a eglurha arogl e y wybod aeth ef trwy dd om ni ym‐pop lle.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond i Dduw y bo’r diolch, yr Hwn sydd bob amser yn ein harwain yn orfoleddus yng Nghrist, ac yn amlygu trwom arogledd y wybodaeth am Dano ymhob lle;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond i Dduw y bo’r diolch am ei fod bob amser yn peri i ni fuddugoliaethu yng Nghrist ac yn amlygu arogl gwybodaeth ohono ef drwom ni ym mhob man.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond diolch i Dduw, mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni'n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy'r byd i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond i Dduw y bo'r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ym mhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn ein harwain mewn buddugoliaeth yng Nghrist, ac yn amlygu arogledd y wybodaeth o hono trwom ni ym mhob lle;