2 Corinthians 2:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ir ei hyn ydd ym yn arogl angeu, i angeu, ac ir llaill yn arogl bywyt, i vywyt, a’ phwy ’sy ddigonol i’r petheu hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r naill yn arogl o farwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill yn arogl o fywyd i fywyd. Ac i’r pethau hyn pwy sydd ddigonol?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i’r naill arogl marwol i farwolaeth, i’r lleill arogl bywiol i fywyd. Ac i gwrdd â’r pethau hyn pwy sy’n ddigonol?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i'r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fel mwg gwenwynig i'r ail grŵp, ond i'r lleill yn bersawr hyfryd sy'n arwain i fywyd. Pwy sy'n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i'r naill, arogl marwol yn arwain i farwolaeth; i'r lleill, persawr bywiol yn arwain i fywyd. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r naill yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd. Ac i'r pethau hyn, pwy sydd ddigonol?