2 Corinthians 2:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad ym ni val y mae llawer, yn masnach u gair Duw: eithr val o burdap, eithr val o Dduw yn‐gwydd Duw, ydd ym ni yn ymadrodd yn‐Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys nid ydym, fel y rhan fawr, yn llygru gair Duw; eithr fel o burdeb, eithr fel o Dduw yngwydd Duw yng Nghrist yr ym yn llefaru.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid ydym, megis y mae llawer, yn gwneuthur llwgr-fasnach o air Duw, eithr megis o ddidwylledd, eithr megis o Dduw ac yng ngŵydd Duw y llefarwn yng Nghrist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! — dŷn ni'n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi'r neges mae Duw wedi ei rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid pedlera gair Duw yr ydym ni fel y gwna cynifer, ond llefaru fel dynion didwyll, fel cenhadon Duw, a hynny yng ngu373?ydd Duw, yng Nghrist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid ydym ni fel y llawer yn llygru gair Duw; eithr megys o burdeb, megys o Dduw, wyneb yn wyneb â Duw, yng Nghrist yr ydym yn llefaru.