2 Corinthians 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi a scrivenais hyn yma atoch, rac pan ddelwn, cael o hanof tristit gan yr ei, y dylywn ym lawenhau: mae vy‐gobaith ynoch oll, vot vy llawenydd i yn llavvenydd y’wch ’oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ysgrifenais hyn ei hun fel na fyddai i mi, wedi dyfod o honof, gael tristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd ganddynt, gan ymddiried yn yr oll o honoch fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma’r union beth a ysgrifennais, fel na ddelwn a chael tristwch oddi ar law y sawl a ddylai beri llawenydd i mi, canys yr oeddwn yn hyderu ar bawb ohonoch mai fy llawenydd i oedd yr eiddoch chwithau hefyd bawb ohonoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i'ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Roeddwn i'n siŵr mai beth sy'n fy ngwneud i'n hapus sy'n eich gwneud chi'n hapus yn y pen draw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ysgrifennais y llythyr hwnnw rhag imi ddod atoch, a chael tristwch gan y rhai a ddylai roi llawenydd imi. Y mae gennyf hyder amdanoch chwi oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwithau i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ysgrifennais hyn yma, rhag, pan ddelwn, y cawn dristwch oddiwrth y rhai y dylwn gael llawenydd; gan hyderu ynoch oll fod fy llawenydd i yn llawenydd yr oll o honoch.