2 Corinthians 2:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yn‐gorthrymder mawr, a’ chyfingder calon ydd yscrivenais atoch gan dda i grae lawer: ny d val ych tristaid chwi, eithr val y gwybyddech y cariat ys y genyf, yn enwedic y chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys o lawer o orthrymder a chyfyngder calon yr ysgrifenais attoch â llawer o ddagrau, nid fel y’ch tristaid, eithr fel y byddai’r cariad yn hyspys i chwi, yr hwn sydd genyf yn fwy tros fesur tuag attoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys o orthrymder mawr ac o wasgfa calon yr ysgrifennais atoch, drwy lawer o ddagrau, nid er mwyn i chwi brofi tristwch ond yn hytrach fel y gwypech am y cariad sydd gennyf yn dra helaeth tuag atoch chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y'ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ysgrifennu'r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Roeddwn i'n ddigalon iawn, a bues i'n wylo'n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau eich gwneud chi'n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i'n eich caru chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd ysgrifennais atoch o ganol gorthrymder mawr a gofid calon, ac mewn dagrau lawer, nid i'ch tristu chwi ond er mwyn ichwi wybod mor helaeth yw'r cariad sydd gennyf tuag atoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys o orthrymder lawer ac o gyfyngder calon yr ysgrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel y tristêid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag attoch chwi.