2 Corinthians 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a gwnaeth neb un dristau, ny wnaeth ef i mi dristau, anyd o ran (rac i mi bwyso arnavv) y chwi oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os bu i neb beri tristwch, nid i myfi y parodd dristwch, eithr o ran (fel na phwyswyf arnoch) i’r oll o honoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os parodd rhywun dristwch nid i mi y’i parodd ef, ond i raddau — rhag i mi haeru gormod — i bawb ohonoch chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i'r peth swnio'n waeth nag y mae.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw rhywun wedi peri tristwch, nid i mi y gwnaeth hynny, ond i chwi i gyd i raddau, beth bynnag, rhag i mi or-ddweud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os oes neb wedi peri tristwch, nid i myfi y mae wedi peri tristwch, ond mewn rhan (fel na phwyswyf yn ormodol) i chwi oll.