2 Corinthians 2:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis yn hytrach yn‐gwrthwynep y dylyechwi vaddau yddavv, a’ ei ðiddanu rac y llyncit y cyfryw vn y gan ’ormodd tristit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn hytrach, maddeuwch chwi a diddenwch ef, rhag ysgatfydd trwy ei dristwch gormodol y llyngcer y cyfryw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y mae galw, i’r gwrthwyneb, am i chwi yn hytrach faddau a chysuro, rhag ysgatfydd i’r cyfryw un gael ei draflyncu gan dristwch eithafol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a'i ddiddanu; rhag llyncu'r cyfryw gan ormod tristwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'ch gwaith chwi bellach yw maddau iddo a'i ddiddanu, rhag iddo gael ei lethu gan ormod o dristwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yn y gwrthwyneb y dylech yn hytrach faddeu iddo a'i ddyddanu, rhag rhywfodd i'r cyfryw gael ei lyngcu gan ormod tristwch.