2 Corinthians 3:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A Ddechreuwn ni ymganmol drachefn? ai rait i ni val i eraill, wrth epistolae can moliāt atoch vvi, neu lythyræ can moliant y genwch?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai dechreu trachefn ganmol ein hunain yr ydym? A oes arnom, fel ar rai, raid wrth epistolau canmoliaeth attoch, neu oddiwrthych?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai dechrau drachefn ein cymeradwyo ein hunain yr ydym? Neu a oes arnom angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chwi neu oddi wrthych chwi megis y mae ar rai?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai dechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydyn ni'n dechrau canmol ein hunain o'ch blaen chi unwaith eto? Yn wahanol i rai, does arnon ni ddim angen tystlythyr i'w gyflwyno i chi, a dŷn ni ddim yn gofyn i chi ysgrifennu un i ni chwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ydym unwaith eto yn dechrau ein cymeradwyo'n hunain? Neu a oes arnom angen llythyrau cymeradwyaeth atoch chwi neu oddi wrthych, fel sydd ar rai?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai dechreu drachefn i gymmeradwyo ein hunain yr ydym? neu a oes arnom raid, fel ar rai, wrth lythyrau o gymmeradwyaeth attoch neu oddiwrthych?