2 Corinthians 3:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr hyn ac ’ogoniantwyt, ny ’ogoniantwyt yn y rhan hon, sef a berthyn ir gogoniant tra rhagorawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra-rhagorol:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys yn yr olygwedd hon ni bu ogoneddus yr hyn a ogoneddwyd oblegid y gogoniant tra rhagorol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn wir, gwelir yma ogoniant a fu, wedi colli ei ogoniant yn llewyrch gogoniant rhagorach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yn wir ni wnaethpwyd yn ogoneddus yr hyn a wnaethpwyd yn ogoneddus yn yr ystyr hyn, o achos y gogoniant tra‐rhagorol.