2 Corinthians 3:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny d ym ni mal Moysen, yr hvvn a ddodei gudd ar ei wynep, rac y blant yr Israel edrych ar ðiben yr hyn a ddilëid.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid fel yr oedd Mosheh yn gosod gorchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddiwedd yr hyn oedd yn cael ei ddiddymmu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
heb wneuthur yr un modd ag yr ysgrifennwyd: Moses a osodai orchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddarfyddiad yr hyn oedd yn diflannu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni ddim yr un fath â Moses, yn rhoi gorchudd dros ei wyneb rhag i bobl Israel syllu arno a gweld fod y disgleirdeb yn diflannu yn y diwedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid fel y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai meibion Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddiflannai;