2 Corinthians 3:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y caledwyt y meddwl hwy: can ys yd y dydd heddyw y mae’r llen‐ gudd honno yn aros heb hi ymatguð wrth ddarllen yr hen Testament, yr hon yn‐Christ a dynir ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw, wrth ddarllen yr hen gyfammod, yr un gorchudd sy’n aros heb ei godi, yr hwn, yng Nghrist y diddymmir ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr caledwyd eu meddyliau. Canys hyd heddiw y mae’r un gorchudd yn aros ar ddarlleniad yr Hen Gyfamod heb ei dynnu ymaith, gan mai yng Nghrist y dileir ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae'r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen destament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hwn yng Nghrist a ddileir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedden nhw ddim yn gweld hynny! Ac mae'r un gorchudd yn dal yno heddiw pan mae geiriau'r hen drefn yn cael eu darllen. Dim ond y Meseia sy'n gallu cael gwared â'r gorchudd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pylwyd eu meddyliau. Hyd y dydd hwn, pan ddarllenant yr hen gyfamod, y mae'r un gorchudd yn aros heb ei godi, gan mai yng Nghrist yn unig y symudir ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddarllen yr Hen Gyfammod, yn aros, gan nad yw wedi ei ddadguddio ei fod wedi ei ddileu yng Nghrist.